1.   Mae’n bleser gan Plant yng Nghymru gael y cyfle i ymateb i ymgynghoriad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y 1,000 Diwrnod Cyntaf – i ba raddau mae polisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru yn cefnogi rôl gynnar rhieni, cyn genedigaeth ac yn ystod 2 flynedd gyntaf bywyd plentyn, a pha mor effeithiol mae’r rhain wrth gefnogi galluoedd a datblygiad emosiynol a chymdeithasol plant.

 

2.   Plant yng Nghymru yw’r corff ymbarél cenedlaethol ar gyfer cyrff ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.  Corff aelodaeth ydym ni, ac mae ein haelodau yn dod o’r sectorau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol. Gweithiwn gyda’n haelodau ac ar eu rhan i hybu eu buddiannau a diwallu eu hanghenion.  Ymhlith y rhwydweithiau rydym yn eu cefnogi mae’r Rhwydwaith Cydlynwyr Rhianta cenedlaethol y mae eu haelodau yn arweinwyr strategol awdurdodau lleol dros rianta, a’r rhwydwaith cenedlaethol Cydgysylltwyr Dechrau’n Deg.  Yn ogystal, hwyluswn amrediad o seminarau a chynadleddau mewn perthynas â chymorth i deuluoedd a gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar ac ymgysylltwn ag ymarferwyr o awdurdodau lleol, maes Iechyd, a’r 3ydd Sector er mwyn rhannu ymchwil a gwybodaeth ymarferol am yr hyn sy’n gweithio wrth gefnogi teuluoedd. 

 

3.   Rydym wedi dewis canolbwyntio ein hadborth i’r ymgynghoriad ar gryfderau a heriau mewn perthynas â darparu gwasanaethau a chymorth i rieni.  Mae’r sylwadau yn cynnwys rhai oddi wrth aelodau’r Rhwydwaith Cydlynwyr Rhianta cenedlaethol.  Rydym hefyd yn cynnwys argymhellion gan gyfranogwyr yn ein cynhadledd rianta ddiwethaf a ganolbwyntiodd ar sut dylem ni fod yn cefnogi llesiant meddyliol ac emosiynol, gan gynnwys cydberthnasau, plant, rhieni a gofalwyr.  Mae rhieni’n chwarae rôl ganolog o ran y canlyniadau i blant.  Gwyddom fod canlyniadau positif i blant yn debycach pan fydd rhieni’n darparu arweiniad a gofal positif i’w plant ar sail yr egwyddorion a bennir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, UNCRC. Credwn fod rhaglenni Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf wedi cyfrannu at ganlyniadau gwell i lawer o deuluoedd yng Nghymru.  Maent hefyd wedi helpu i ddatblygu ymagweddau aml-asiantaeth mwy effeithiol at hyrwyddo ac amddiffyn iechyd a llesiant plant.  Awgrymwn y bydd y gwersi a ddysgwyd o werthusiadau cenedlaethol a lleol o Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg yn pwyntio tuag at sut mae cryfhau gwaith partneriaeth.  Ystyriwn fod tir wedi cael ei golli yn y blynyddoedd diwethaf o ran gwaith partneriaeth i gefnogi plant a’u teuluoedd oherwydd i Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc ddod i ben yr oedd ganddynt gylch gwaith eang ar gyfer ymdrin â hawliau plant o dan y 7 nod craidd ac ar gyfer creu cysylltiadau ar draws pob polisi a’u gweithrediad.

 

4.   Croesawn ffocws rhaglen y 1,000 Diwrnod Cyntaf ac yn canmol ei nod o ddod ag asiantaethau ynghyd i weithio gyda’i gilydd. Cydnabyddwn ganfyddiadau’r gwaith i fapio’r ‘system’ bresennol am feichiogrwydd a phlentyndod cynnar a gwblhawyd yn y safleoedd treial Wrecsam a Thorfaen.  Ystyriwn fod y canfyddiadau hyn yn debygol o gael eu hadlewyrchu ym mhob gwlad, yn arbennig yr angen i wasanaethau weithredu fel system gyfan, ac i leihau amrywiaeth mewn mynediad i wasanaethau a’u darparu o fewn gwahanol ardaloedd a rhyngddynt.

 

5.   O ran cefnogi rhieni i fod yn rhieni gwell, cytunwn mai ymgyrch rhianta positif Llywodraeth Cymru yw’r ffordd gywir o hyrwyddo ymddygiad rhianta positif a chynnig gwybodaeth a chyngor a chymorth ymarferol am ddewisiadau amgen yn lle ‘smacio’.  Disgwyliwn i hyn weithio’n dda ar ôl deddfu’r newid cyfreithiol a addawyd i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc yr un amddiffyniad rhag cael eu curo ag oedolion.

 

6.   Mae angen ffocws ar sut orau i ddatblygu gweithlu cymwys â chymwysterau priodol mewn cymorth i deuluoedd a ffocws lleol ar ddatblygu ansawdd, cysondeb, a chymhwysedd.  Awgrymwn fod angen i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i hyrwyddo gwerth Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a fframweithiau gan gyfeirio at fentrau’r Deyrnas Unedig, Ewrop a rhyngwladol.  Bydd Plant Yng Nghymru yn canolbwyntio ar y pwnc hwn yn ein cynhadledd rianta nesaf ar 15 Chwefror a bydd argymhellion ar gael yn fuan wedi hynny.  Mae manylion rhaglen y gynhadledd yma http://www.childreninwales.org.uk/item/parenting-conference-2017/

 

7.   Mae Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn ddarpariaeth statudol ym mhob Awdurdod Lleol sy’n adnodd gwerthfawr, gan gynnig cyngor di-dâl a diduedd ar faterion fel gofal plant, gan gynnwys help gyda chost gofal plant, addysg a hyfforddiant, gwasanaethau iechyd a hamdden. Mae Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd hefyd yn bwynt cysylltiad ag amrediad o arbenigwyr a fydd yn darparu cymorth a chefnogaeth am ddim sydd wedi eu teilwra i anghenion unigol. Mae Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn trefnu bod eu gwybodaeth ar gael ar wefannau, trwy amrediad o gyfryngau cymdeithasol ac mewn amrediad eang o ddigwyddiadau cyhoeddus. Mae’r gwasanaethau yn hygyrch hefyd dros y ffôn a mynediad cyhoeddus.

8.   Croesawn y gefnogaeth a ddarperir i Wasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd drwy gontract cymorth Llywodraeth Cymru, ac yn awyddus i sicrhau bod “brand” Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn aros yn weithgar ac yn weladwy i’r cyhoedd, ynghyd â datblygiad gwasanaethau cyngor, gwybodaeth a chymorth yng Nghymru. Rhaid i rieni, yn arbennig rhieni newydd sy’n cydbwyso anghenion teulu ifanc gyda gofynion gwaith neu hyfforddiant, allu dod o hyd i’r cyngor ac arweiniad priodol yn rhwydd ac yn uniongyrchol, a hynny gan staff profiadol a hyddysg.

 

9.   Mae helpu rhieni gyda’u cydberthnasau yn bwysig. Dengys tystiolaeth gysylltiadau cryf rhwng cydberthnasau parau, rhianta, a chanlyniadau plant.  Awgrymwn y gallai cymorth rhianta gael ei wella yng Nghymru, hyd yn oed yn yr adegau hyn o galedi, trwy normaleiddio mynediad i gymorth drwy integreiddio ac arwyddbostio cymorth i deuluoedd a rhieni mewn mannau cysylltu rheolaidd hysbys. Byddai hyn yn chwalu stigma siarad â gweithwyr proffesiynol.  Wrth ystyried datblygiad Hybiau Plant, dylai dull llwyddiannus canolfannau cydberthnasau teuluol Awstralia gael ei ystyried.  Byddai darpariaeth o’r fath yn y gymuned yn cynnig cyfleoedd i ddarparu cymorth cynhwysol a phwrpasol ac yn gadael i bartneriaid 3ydd Sector ychwanegu at y cymysgedd.

 

10.        Mae mesur gweithrediad teulu/cydberthynas fel rhan o’r drefn yn bwysig ac efallai y gallai llunwyr polisi gymryd y materion hyn i ystyriaeth wrth ddatblygu polisi.  Gallai mesur gweithrediad teuluol a dynameg deuluol bositif, gan gynnwys ansawdd cydberthnasau rhieni, ddigwydd ar y lefel leol. Fodd bynnag, awgrymwn y bydd dulliau cynnal asesiadau o debygolrwydd profiadau niweidiol mewn plentyndod yn hollbwysig.  Er y byddai hyfforddi Ymwelwyr Iechyd mewn cynnal asesiadau yn gam cadarnhaol, awgrymwn y dylai sgiliau ymarferwyr rhianta wrth gynnal ‘sgyrsiau anodd’ â rhiant gael eu cydnabod ac y dylai dulliau cydweithredol gael eu blaenoriaethu. 

 

11.        Mae’n rhaid wrth hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr gwaith teuluol rheng flaen mewn gweithio gyda chydberthnasau ac mae amrediad eang o adnoddau ar gael i gefnogi hyn. Croesawn y penderfyniad i gynnwys ffocws ar wella cydberthnasau rhwng rhieni a phlant mewn canllawiau Teuluoedd yn Gyntaf a chanllawiau anstatudol Llywodraeth Cymru Rhianta yng Nghymru: Canllawiau ar Ymgysylltiad a Chymorth.   Awgrymwn y dylai’r canllawiau hyn, a’r rhai ar gyfer Dechrau’n Deg, gynnwys argymhellion penodol am raglenni ac ymagweddau wrth weithio gyda pharau. Dylai fod darpariaeth i werthuso arfer da, sy’n bodoli ac sy’n dod i’r amlwg, sy’n cymryd i ystyriaeth nodweddion unigryw'r cyd-destun.  Mae angen i ni gael cysylltiadau gweithio ehangach ag ysgolion gan gynnwys ymdrin â sgiliau staff ysgolion sy’n gweithio gyda theuluoedd. 

12.        O ran tlodi plant, mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru  yn glymblaid pryder sy’n canolbwyntio ar ddileu tlodi plant yng Nghymru, sy’n cael ei gyd-drefnu a’i reoli o ddydd i ddydd gan Plant yng Nghymru.  Mae ei grŵp llywio yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o’r sectorau gwirfoddol a statudol ac mae gan y Rhwydwaith aelodaeth gefnogol gynyddol o drawstoriad eang o asiantaethau. Mae maniffesto Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant yn gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod trechu tlodi plant yn aros yn flaenoriaeth o fewn trefniadau newydd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Hefyd dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod mesurau atebolrwydd eglur ar waith. 

 

13.        Cefnogwn yr argymhellion a wnaed yn adroddiad 2016 Sefydliad Joseph Rowntree Poverty: causes, costs and solutions

 https://www.jrf.org.uk/report/uk-poverty-causes-costs-and-solutions

Mae’n dda gennym fod ymagwedd Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â llawer o’r argymhellion e.e. gwella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, gweithio mewn hybiau plant yn y gymuned, cefnogi’r 3ydd Sector i chwarae rhan mewn darpariaeth leol, arian ar gyfer cymorth cydberthnasau.  Serch hynny, mae angen arian ychwanegol er mwyn gwireddu rhwydweithiau ymyrraeth gynnar effeithiol ym mhob ardal.  Roedd ymatebion i’n harolwg diweddar am dlodi plant a theuluoedd (sydd ar y gweill) yn cynnwys myfyrdodau gan ymarferwyr rheng flaen mewn ardaloedd Dechrau’n Deg sydd o’r farn eu bod yn gwneud gwahaniaeth sylweddol wrth helpu i wella bywydau plant ifanc a’u teuluoedd.  Ond awgrymwyd bod angen mwy o adnoddau er mwyn sicrhau bod digon o gefnogaeth ar adegau cynenedigol/amenedigol i sicrhau’r ymyrraeth gynharaf bosibl.  Byddai hyn yn cynnwys gweithwyr cymorth, bydwragedd, seicotherapyddion ychwanegol ac yn y blaen i sicrhau bod cymorth ac arbenigedd aml-asiantaeth ar gael i deuluoedd sy’n agored i niwed ac sy’n byw mewn sefyllfaoedd heriol. 

 

14.        Yng Nghymru, yn yr un modd ag yng ngweddill y DU, mae anafiadau anfwriadol yn fater o bwys o ran iechyd y cyhoedd.  Dyna un o achosion pennaf anafiadau angheuol, difrifol ac anablu i blant ac mae digonedd o dystiolaeth mai dyna achos pennaf anghydraddoldeb iechyd.  Marwolaethau plant o danau yn y cartref yw’r un mwyaf o’r holl anghydraddoldebau iechyd sydd wedi eu dogfennu, gyda phlant o deuluoedd llai cyfoethog 37 gwaith yn fwy tebygol o farw mewn tân yn y cartref.  O’i chymharu â gwledydd eraill y DU, Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o anafiadau a marwolaethau ymhlith plant. Mae Cymru hefyd yn cymharu’n weddol wael â gwledydd eraill Ewrop.  Mewn asesiad Ewropeaidd o 31 o wledydd yn 2012, daeth Cymru yn 23ain o ran ymdrechion i atal anafiadau anfwriadol, gyda Lloegr yn 8fed a’r Alban yn 11eg.  Mae effeithiau anafiadau anfwriadol yn bellgyrhaeddol ac yn gosod baich cymdeithasol ac economaidd sylweddol ar blant, eu teuluoedd, y boblogaeth ehangach a’r gwasanaethau yng Nghymru.  Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr effaith arwyddocaol hon ac yn Ein Dyfodol Iach, gwnaeth lleihau damweiniau ac anafiadau yn un o’i deg blaenoriaeth ar gyfer gweithredu.  Caiff hyn ei gefnogi ymhellach drwy ei chynllun blynyddoedd cynnar a gofal plant, Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair (2013). Serch hynny, ni chaiff y dyhead hwn ei wireddu heb fod arweinydd strategol ar anafiadau anfwriadol.  Ar hyn o bryd nid oes unrhyw swydd o’r fath o fewn Llywodraeth Cymru na Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Awgrymwn hefyd fod angen hyfforddiant mandadol mewn atal anafiadau anfwriadol ar gyfer ymwelwyr iechyd a bydwragedd.